Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif (Cy. )
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 16(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol a sefydliadau trydydd sector i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn eu hardal. Mae adran 16(2) yn diffinio “menter gymdeithasol” a “sefydliad trydydd sector”. Mae’r diffiniad o “menter gymdeithasol” yn cynnwys gofyniad bod ei gweithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn rhai y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau a gyflawnir er budd y gymdeithas. Mae “sefydliad trydydd sector” wedi ei ddiffinio fel sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas. Mae’r cyfeiriad at “y gymdeithas” yn y ddau ddiffiniad wedi ei ddiffinio fel un sy’n cynnwys adran o’r gymdeithas.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu mwy o fanylion am y mathau o sefydliadau neu drefniadau sydd i’w trin neu ddim i’w trin fel mentrau cymdeithasol, sefydliadau neu drefniadau cydweithredol a’r hyn y caniateir ei ystyried yn adran o’r gymdeithas. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gyfystyr â gweithgaredd y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn weithgaredd a gyflawnir er budd y gymdeithas. Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer yr hyn a gaiff fod yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas at ddibenion y diffiniad o “menter gymdeithasol” a “sefydliad trydydd sector”.
Mae rheoliadau 3, 4, 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r hyn a drinnir fel gweithgaredd y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn weithgaredd a gyflawnir er budd y gymdeithas.
Mae rheoliad 7 yn rhestru enghreifftiau o sefydliadau y caniateir eu trin fel menter gymdeithasol. Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff sefydliad gael ei drin fel menter gydweithredol, p’un a yw wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ai peidio, ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â’r egwyddorion ar gyfer menter gydweithredol.
Mae rheoliad 9 yn pennu enghraifft o’r hyn a gaiff fod yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif (Cy. )
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015
Gwnaed ***
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 16(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Yn unol ag adran 196(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r
Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a
Thrydydd Sector) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adran 16 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gweithgareddau sydd o fudd i’r gymdeithas
3. At ddibenion y diffiniad o “menter gymdeithasol” yn adran 16(2) o’r Ddeddf, nid yw gweithgaredd i’w drin fel gweithgaredd y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn weithgaredd a gyflawnir er budd y gymdeithas ond—
(a) os yw’n gynhwysol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 4);
(b) os yw’n cynnwys pobl (fel y’i diffinnir yn rheoliad 5); ac
(c) os yw’n hyrwyddo llesiant (fel y’i diffinnir yn rheoliad 6).
Cynhwysol
4. Mae gweithgaredd yn gynhwysol os yw’r sefydliad sy’n cyflawni’r gweithgaredd wedi rhoi sylw, mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw, i’r ffactorau y mae’n rhaid i awdurdod cyhoeddus roi sylw iddynt wrth gydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a nodir yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010([2]).
Cynnwys pobl
5. Mae gweithgaredd yn cynnwys pobl os yw’r sefydliad sy’n darparu’r gweithgaredd yn hyrwyddo ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno.
Hyrwyddo llesiant
6. Mae gweithgaredd yn hyrwyddo llesiant os oedd y sefydliad sy’n darparu’r gweithgaredd, wrth ddylunio a gweithredu’r gweithgaredd, wedi rhoi sylw i’r nod o geisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.
Mentrau cymdeithasol
7.—(1)(1) At ddibenion adran 16 o’r Ddeddf, mae’r mathau canlynol o sefydliad yn enghreifftiau o
sefydliadau sydd i’w trin fel mentrau cymdeithasol—
(a) cwmni buddiant cymunedol fel y cyfeirir ato yn adran 26 o Ddeddf Cwmnïau (Archwilio, Ymchwiliadau a Menter Gymunedol) 2004([3]);
(b) cymdeithas budd cymunedol sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer cofrestru yn adran 2 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014([4]);
(c) menter gymunedol;
(d) undeb credyd sydd wedi ei gofrestru a’i reoleiddio o dan Ddeddf Undebau Credyd 1979([5]);
(e) cymdeithas dai (fel y’i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985([6])).
(2) Yn rheoliad 7(1)(c) uchod ystyr “menter gymunedol” (“community enterprise”) yw corff—
(a) y mae cyfrannu at ddatblygiad economaidd a chymdeithasol ardal benodol o Gymru yn brif ddiben ganddo; a
(b) nad yw, yn ôl ei gyfansoddiad ysgrifenedig, yn derbyn i’w aelodaeth neb ond—
(i) personau sy’n preswylio, neu sy’n cael eu cyflogi, yn yr ardal honno (neu sy’n preswylio yno ac yn cael eu cyflogi yno); neu
(ii) personau a enwebir gan y personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (i) uchod.
Mentrau cydweithredol
8.—(1)(1) At ddibenion adran 16(1) o’r Ddeddf—
(a) caniateir i sefydliad gael ei drin fel sefydliad cydweithredol p’un a yw’n bodloni’r holl ofynion ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014([7]) ai peidio;
(b) caniateir i drefniadau gael eu trin fel trefniadau cydweithredol p’un a yw’r sefydliad sy’n gwneud y trefniadau yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ai peidio;
os yw’r sefydliad, neu’r sefydliad sy’n gwneud y trefniadau, yn cydymffurfio i raddau digonol â’r egwyddorion ar gyfer mentrau cydweithredol ym mharagraff (2).
(2) Mae’r egwyddorion ar gyfer mentrau cydweithredol yn ei gwneud yn ofynnol bod y sefydliad yn un—
(a) ymreolaethol,
(b) a chanddo aelodaeth wirfoddol,
(c) a chanddo’r diben o fodloni anghenion a dyheadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cyffredin,
(d) a berchenogir ar y cyd, ac
(e) a reolir yn ddemocrataidd.
Adran o’r gymdeithas
9. At ddibenion adran 16 o’r Ddeddf caniateir i adran o’r gymdeithas gael ei ffurfio o’r canlynol —
(a) y personau hynny y mae arnynt neu y gall fod arnynt angen gofal a chymorth;
(b) gofalwyr y mae arnynt neu y gall fod arnynt angen cymorth; neu
(c) plant, pobl sy’n gadael gofal a phobl ifanc y mae gan awdurdod lleol swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â hwy o dan Ran 6 o’r Ddeddf.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad